Arian y Loteri Genedlaethol yn rhoi bywyd newydd i barciau ledled y DU

Y pyllau ym Mharc Maenor Linford Fawr, Milton Keynes

Mae saith o barciau hanesyddol yn cael eu hadfer a’u hadnewyddu i’w mwynhau gan genedlaethau'r dyfodol, yn dilyn newyddion y bydd y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi £11.4miliwn ynddynt. Daw'r newyddion wrth i bobl ledled y DU ddathlu Wythnos Caru Parciau.

Mae'r parciau sy’n derbyn arian yn amrywio o barciau gwledig sy'n cynnwys mwy na 300 erw i barciau trefol hanesyddol sydd ddim ond 40 erw, ochr yn ochr â gerddi glan môr Fictorianaidd godidog.

Nawr, diolch i'r arian a godwyd trwy werthu tocynnau'r Loteri Genedlaethol, bydd y mannau pwysig hyn yn cael eu cynnal ar gyfer y dyfodol trwy adfer nodweddion hanesyddol a phlannu; creu cyfleusterau newydd gan gynnwys mannau chwarae, caffis a thoiledau; a gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Dyfarnwyd arian y Loteri Genedlaethol ar y cyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) a Chronfa Loteri Fawr yn Lloegr.

Y Parciau sy'n derbyn grantiau ar y cyd gan Gronfa Dreftdaeth y Loteri a Chronfa’r Loteri Fawr yn Lloegr yw:

  • Parc Maenor Headstone, Llundain     - £1.1m
  • Maes Hamdden Faversham, Faversham- £1.6m
  • Parc Maenor Linford Fawr, Milton Keynes   - £3.1m
  • Gerddi a Phafiliwn y Mount, Fleetwood - £2m
  • Parc Gwledig Durlston, Swanage - £900,200

Y parciau sy’n derbyn grantiau gan Gronfa Dreftdaeth y Loteri yng Nghymru a’r Alban yn unig yw:

  • Parc Gwledig Aden, Mintlaw, Swydd Aberdeen - £1.6m
  • Castell Yr Wyddgrug, Bryn y Beili, Sir y Fflint - £963,700

Dywedodd Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ros Kerslake: “Er bod ein parciau yn amrywio mewn meintiau, lleoliadau a dyluniadau, yr hyn sydd ganddynt oll yn gyffredin yw'r cyfoeth o fuddion y maent yn eu darparu i gymunedau lleol. O ffyniant economaidd ac amrywiaeth ecolegol i les personol, mae parciau yn hanfodol i iechyd y genedl. Dyna pam yr ydym hyd yma wedi buddsoddi cyfanswm o £950miliwn o arian y Loteri Genedlaethol mewn adfywio parciau a llecynnau gwyrdd trefol hyd yma, a byddant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni ar gyfer y dyfodol.”

Parc Gwledig Durlston ger Swanage, Dorset (£900,000) - Mae Parc Gwledig Durlston yn Warchodfa Natur Genedlaethol ar ben clogwyni ac yn un o safleoedd gorau'r DU ar gyfer bywyd gwyllt. Fe'i lleolir o fewn Ystâd Parc Durlston, a ddatblygwyd ddiwedd y 19eg ganrif gan George Burt, a brynodd dir o gwmpas Durlston Head gyda'r nod o greu parc a datblygiad tai. Crëwyd y parc ond ni adeiladwyd y tai.

Bydd yr arian nawr yn galluogi'r parc i gael ei adfer a'i wella. Bydd plannu newydd a rheoli cynefinoedd o fudd i fywyd gwyllt a bydd tawelwch yr ardal yn cael ei gynnal. Bydd y prosiect hefyd yn helpu Durlston i ddod yn un o'r llefydd gorau yn y wlad i bobl ag anableddau neu symudedd llai i fwynhau bywyd gwyllt a chefn gwlad.

Parc Gwledig Aden, Mintlaw yn Swydd Aberdeen (£1,687,000) - Roedd Parc Gwledig Aden yn gartref i deulu Russell am fwy na 200 mlynedd, a oedd yn Fynachlog Canoloesol yn wreiddiol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i defnyddiwyd fel barics y fyddin ac fe gafodd lawer o ddifrod. Ar ôl y rhyfel ni welwyd fawr o waith i gadw a chynnal y tŷ. Cydnabu Cyngor Aberdeen ei werth fel ardal o harddwch naturiol trawiadol gydag amrywiaeth eang o nodweddion pensaernïol, cynefinoedd a choetiroedd a'i brynu yn 1974. Dynodwyd yn parc gwledig y flwyddyn ganlynol.

 Deugain mlynedd yn ddiweddarach, bydd yr arian yma yn galluogi'r cyngor i sefydlu Aden fel parc sy'n adlewyrchu ei gorffennol. Mae'n dymuno gwella profiad yr ymwelydd, ehangu a chynyddu cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth, wrth ddiogelu a chofnodi agweddau anhysbys o'r parc - gan gynnwys strwythur Oes yr Efydd a Keith Tower House.

Gerddi a Phafiliwn y Mount, Fleetwood, Sir Gaerhirfryn (£2,019,400)​ - Cynlluniwyd y tirnod lleol, Y Pafiliwn Mount a'i gerddi cofrestredig Gradd II gan y dylunydd pensaer a thirlun Decimus Burton yn y 1800au. Bydd yr arian yma yn galluogi'r Pafiliwn i gael ei hadfer a'i ddefnyddio'n rheolaidd fel canolfan addysg, lle arddangosfa ac ystafell swyddogaeth ar gyfer digwyddiadau a derbyniadau cyhoeddus.

Bydd porthdy’r parc hefyd yn cael ei adfer. Bydd y llawr uchaf yn cael ei agor fel ystafell wely a bydd y lloriau is yn cael eu defnyddio fel ystafell llanast i wirfoddolwyr sy'n helpu ar y tir. Bydd llawer o'r nodweddion tirlun coll yn cael eu disodli a bydd Gardd Mary Hope, a gynlluniwyd yn wreiddiol yn y 1960au ar gyfer pobl sy'n ddall, yn cael ei adfywio. Bydd cynlluniau plannu ar gyfer bywyd gwyllt a chreu man chwarae newydd.

Parc Maenor Headstone, Llundain (£1,126,900) ​- Mae Parc Maenor Headstone yn cwmpasu 23 hectar a’r hyn sydd yn weddill o fferm llawer helaeth, hynafol 'Heggeston', a gofnodwyd gyntaf o 1300. Parhaodd ffermio ar y tir hyd at 1928, pan brynodd yr hen awdurdod lleol, Cyngor Gwledig Hendon, i greu parc cyhoeddus.

Mae'r parc wedi'i ddynodi'n Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SINC) ac mae'n amgylchynu Maenor Headstone o’r 13eg ganrif, sydd bellach yn amgueddfa. Bydd y prosiect yn adfywio pob agwedd o’r parc sy'n ategu Amgueddfa’r Maenor a ariennir gan CDL a adferwyd yr adeiladau a chanolfan ymwelwyr newydd yn ddiweddar. Bydd yn adfer y ffatri ddŵr hanesyddol o'r 14eg ganrif a bydd rhannau o Yeading Brook yn cael ei ehangu gan wneud lle i wlyptiroedd er mwyn gwella cynefinoedd bywyd gwyllt.

Maes Hamdden Faversham, Faversham, Caint (£1,602,000) - Sefydlwyd Maes Hamdden Faversham (a elwir yn FavershamRec yn lleol) yn 1860 gan gyfreithiwr lleol, Henry Wreight, a roddodd ei ystâd gwerth £70,000. Fe'i hariannwyd hefyd gan danysgrifiadau gan bobl y trefi. Ychwanegwyd bandstand tua diwedd y 19eg ganrif, a dechreuwyd cynnal digwyddiadau chwaraeon ar y maes.

Bydd yr arian newydd yma yn galluogi adnewyddu bwthyn a logias yr hen arddwr; adfer gatiau haearn gwreiddiol a ffens; adfer rhai ardaloedd o blanhigion a llwybrau hanesyddol; gwneud gwelliannau i'r ardal chwarae a'r parc sglefrio a chreu mannau perfformiad awyr agored.

Parc Maenor Linford Fawr, Milton Keynes (£3,161,800) - Yn cwmpasu ardal o 16 hectar a thir hen faenor, mae Parc Great Linford Manor nid nepell o Milton Keynes. Mae ei dirwedd yn cynnwys nodweddion o'r 17eg a'r 18fed ganrif, gan gynnwys y gerddi dŵr a'r ardd anialwch lle credir taw gwaith Richard Woods ydoedd, sef y Capability Brown cyfoes. Fe'i sefydlwyd gyntaf fel tir parc cyhoeddus gan Gorfforaeth Datblygu Milton Keynes yn y 1970au.

Nod y prosiect yw adfer treftadaeth gyfoethog y parc, gan gynnwys nodweddion gardd wreiddiol megis pwll a rhaeadrau'r 18fed ganrif. Bydd ardaloedd o ddôl blodau gwyllt yn cael eu hymestyn a gwneud yr hen chwarel galchfaen yn y parc yn fwy hygyrch i bobl ddysgu am y dreftadaeth ddaearegol leol. Bydd llwybr chwarae newydd ar gyfer plant a mwy o lefydd i eistedd. Mae grŵp gwirfoddol newydd, Cyfeillion Parc Maen Linford Fawr, hefyd wedi'i sefydlu gyda chymorth y prosiect yma.

Castell yr Wyddgrug Bryn y Beili, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint (£963,700) - Mae Parc Bryn y Beili yn amgylchynu gweddillion helaeth Castell yr Wyddgrug o'r 11eg ganrif, a adeiladwyd gan Arglwyddi Molsdale. Mae ganddo hanes nodedig: a ddinistriwyd gan Llywelyn ab Iorwerth (Tywysog Gwynedd) yn 1199 a'i drwsio; fe'i cymerwyd gan Dafydd ap Llywelyn (Tywysog Cymru) yn 1245; ac fe'i hadferwyd gan Edward I yn 1276.

Fe'i sefydlwyd fel parc yn y 1920au gan Gyngor Rhanbarth Trefol yr Wyddgrug, ac roedd y gwaith ar y pryd yn cynnwys ychwanegu gatiau, cyrtiau tenis a senotaff. Codwyd Cylchoedd Cerrig yr Orsedd yn 1923 ar gyfer cyhoeddi'r ŵyl ddiwylliannol Gymreig: yr Eisteddfod Genedlaethol, a ddaeth yno unwaith eto yn 1990.

Bydd yr arian yma yn galluogi'r parc i gael ei hadnewyddu a'i huwchraddio, gan ei gwneud yn lle hygyrch, diogel a bywiog, wrth ddatgelu a diogelu hanes rhyfeddol y safle.

Nodyn i olygwyr

Ers 1996, defnyddiwyd mwy na £950miliwn gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i gefnogi adfywio, cadwraeth a gwella cyfleusterau parciau cyhoeddus a mynwentydd ledled y DU. Darganfyddwch fwy am sut i ymgeisio yma 

Mwy am Gronfa Dreftadaeth y Loteri

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, buddsoddwn arian i helpu pobl ledled gwledydd Prydain archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth sy’n golygu cymaint iddynt – o’r archaeoleg o dan ein traed i’r parciau ac adeiladau hanesyddol rydym yn eu caru, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin. www.HLF.org.uk. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #LoteriGenedlaethol

Mwy am Gronfa Loteri Fawr 

Cronfa Loteri Fawr yw'r ariannwr mwyaf gweithgareddau cymunedol yn y DU. Rydyn ni'n cael ein harwain gan y bobl i wella eu bywydau a'u cymunedau, yn aml trwy brosiectau bach lleol. Rydym yn gyfrifol am roi 40% o'r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i achosion da. Y llynedd gwnaethom ddyfarnu £583 miliwn a chefnogwyd tua 12,000 o ledled y DU ar gyfer iechyd, addysg, yr amgylchedd a dibenion elusennol. Ers mis Mehefin 2004 rydym wedi dyfarnu mwy na £8biliwn i brosiectau sy'n newid bywydau miliynau o bobl.

Cyflwr Parciau y DU 

Ym mis Medi 2016, cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yr adroddiad State of UK Public Parks 2016, yn dilyn yr adroddiad blaenorol yn 2014.

Datgelodd yr ail adroddiad fod diffyg cynyddol rhwng cynnydd yn y bobl sy’n defnyddio’r parciau a'r dirywiad yn yr adnoddau sydd ar gael i'w rheoli. Heb weithredu ar frys, mae'r duedd barhaus yng nghyflwr nifer o'n parciau a'n mannau gwyrdd mwyaf trysoriedig yn parhau.

Er bod ffyrdd newydd o weithio a chynhyrchu incwm yn dangos potensial, mae angen mwy o gefnogaeth, rhannu dysgu a chydweithio i gefnogi'r rhai sy'n rheoli parciau cyhoeddus. Felly, mae'r ymchwil yma yn galw am weithredu ar y cyd i gyflwyno ffyrdd newydd o ariannu a rheoli parciau cyhoeddus i osgoi argyfwng.

Pwyllgor Dethol CLG – Ymchwiliad i barciau cyhoeddus 

Cyflwynodd CDL dystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Dethol Cymunedau a Llywodraeth Leol i ddyfodol parciau cyhoeddus. Cyhoeddwyd argymhellion y Pwyllgor ddechrau 2017.

Yn ôl i ben y dudalen