Croeso cynnes i’r Eisteddfod gan Sain Ffagan

Crewyd y gadair gan ddwylo medrus y cerflunydd lleol Chris Williams
Mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn helpu i groesawu miloedd o ymwelwyr i Gaerdydd fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol – yr ŵyl flynyddol bwysig sy’n dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Sain Ffagan – un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf Ewrop - ar hyn o bryd yn cael yr ailddatblygiad mwyaf arwyddocaol yn ei hanes, wedi derbyn £12.5 miliwn; y grant mwyaf a roddwyd erioed gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.

Digwyddiad mwyaf mawreddog yr Eisteddfod yw’r cadeirio, ac mae’r gadair eleni wedi'i dylunio a'i chrefftio yng ngweithdy newydd sbon ‘Gweithdy’ Sain Ffagan. Yn rhyfeddol, hwn oedd y tro cyntaf erioed i’r broses o wneud cadair yr Eisteddfod gael ei dangos a’i rhannu â phobl.

Ysbrydolwyd y cerflunydd lleol Chris Williams, sydd wedi creu y gadair â llaw, gan gadeiriau ffon bren yng nghasgliad yr amgueddfa, ac mae’r sedd a chefn y gadair newydd wedi eu ysgrythu\n ysgafn gyda phatrwm gwlân traddodiadol yn seiliedig ar garthen (blanced traddodiadol Gymreig) wedi ei wau ym Melin Wlân Esgair Moel - un o'r adeiladau cyntaf i gael ei ail-adeiladu yn Sain Ffagan yn 1952.

Dathliad dwbl i Sain Ffagan

Mae rhoi cadair eiconig i’r ŵyl arbennig hon yn nodi dathliad dwbl ar gyfer Sain Ffagan yn ei blwyddyn pen-blwydd yn 70, gyda Sain Ffagan ei hun am ddechrau pennod newydd cyffrous yn ei hanes ei hun drwy gwblhau ei phrosiect Loteri Genedlaethol arloesol ym mis Hydref.

Os ydych ym mhrifddinas Cymru yn dathlu’r Eisteddfod, beth am ymweliad ag atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru tra byddwch chi yno? Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy nac erioed i’w weld a’i wneud, gan gynnwys oriel a gweithdy, a hyd yn oed mwy o adeiladau wedi eu hail-greu o orffennol Cymru - fel y fferm o’r Oes Haearn, Bryn Eryr.

Yn ôl i ben y dudalen