Llond sach o gynigion y Nadolig yma mewn mwy na 350 o safleoedd treftadaeth sydd wedi’u cefnogi gan y Loteri Genedlaethol!

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £7.7biliwn wedi cael ei roi i fwy na 42,000 o brosiectau treftadaeth dros y 23 mlynedd diwethaf.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £7.7biliwn wedi cael ei roi i fwy na 42,000 o brosiectau treftadaeth dros y 23 mlynedd diwethaf.

Fel ffordd o ddweud ‘diolch o galon’ y Nadolig yma, mae mwy na 350 o atyniadau treftadaeth sydd wedi’u cefnogi gan y Loteri Genedlaethol ledled y DU yn agor eu drysau, cyflwyno cynigion arbennig neu ostyngiadau i unrhyw un sydd â thocyn neu gerdyn crafu'r Loteri Genedlaethol o 11-17 Rhagfyr. 

Rhai o'r sefydliadau sy'n cymryd rhan a blas o'u cynigion:

  • Mynediad am ddim i fwy na 100 o eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddydd Mercher 13 Rhagfyr
  • Mynediad am ddim i'r arddangosfa Beneath the Surface yn Amgueddfa Hanes Naturiol am wythnos gyfan rhwng 11 a 17 Rhagfyr
  • Mynediad am ddim i'r Baddonau Rhufeinig, Cearfaddon, ddydd Mercher 13 Rhagfyr
  • Mynediad am ddim i Ddociau Hanesyddol Portsmouth am wythnos gyfan
  • Mynediad a mins pei am ddim yn Buxton Crescent Pump Room
  • Coeden am ddim o Ffair Nadolig Coed Cadw Skipton Woods yn Nyfrynnoedd Swydd Efrog

Rhagor o newyddion fis nesaf

Ar ddechrau fis Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi map ar-lein sy’n cynnwys yr holl atyniadau sy’n cynnig rhywbeth am ddim i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Gall gynigion amrywio, felly dewch yn ôl i’r dudalen yma neu ewch i wefan y Loteri Genedlaethol (ar ddechrau mis Rhagfyr) am ragor o fanylion a rhestr lawn o’r atyniadau sy’n cymryd rhan.

#ThanksToYou

 

Yn ôl i ben y dudalen