Pont-y-pŵl

Watch the 20 years in 12 places: Pontypool video
Mae prosiectau treftadaeth yng nghyffiniau Pont-y-pŵl wedi derbyn cyfanswm o £12.4m mewn grantiau neu £134.06 y pen*.

Cafodd pob elfen o’r ymchwil ei chynnal ym Mhont-y-pŵl. Casglwyd data cefndir er mwyn deall sut y mae’r ardal wedi newid dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Canfyddiadau

Mae poblogaeth Pont-y-pŵl wedi aros yn sefydlog yn ystod yr 20 mlynedd ers sefydlu Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae wedi aros yn eithaf unffurf dros y cyfnod hwnnw hefyd. Mae Pont-y-pŵl wedi dioddef yn economaidd yn y blynyddoedd diweddar; mae’r lefel diweithdra yno yn uchel o’i chymharu â gweddill y DU ac mae hyn wedi cynyddu ar raddfa gyflymach nag yn un man arall.

“Roedd dad a tad-cu yn arfer gweithio yn y pyllau glo ac mae’n rhan fawr o hanes ein teulu ac o hanes yr ardal.”

Adlewyrchwyd y materion economaidd hyn yng nghanfyddiadau’r ymchwil ansoddol a meintiol. Er bod 83% o’r trigolion yn cytuno bod Pont-y-pŵl a’r ardal gyfagos yn lle da i fyw ynddo, mynegwyd pryderon hefyd ynghylch sut y mae wedi newid, ac roedd 31% yn dweud ei bod wedi dirywio yn ystod yr amser maent wedi byw yno. Mae hyn yn cymharu’n anffafriol gyda’r cyfartaledd ar draws y 12 lleoliad ymchwil, lle mae 26% yn dweud bod eu hardal leol wedi dirywio. Adlewyrchwyd hyn yn y gweithdy, lle roedd y cyfranogwyr wedi dweud bod diffyg buddsoddi,  marchnad gyflogaeth wan, a darpariaeth wael o siopau yn faterion lleol pwysig.

Ond mae’r trigolion yn fwy cadarnhaol am eu treftadaeth. Roedd cyfranogwyr y gweithdy yn falch iawn o’u treftadaeth, ac maent yn aml yn cysylltu’r dreftadaeth honno ag oes aur ddiwydiannol yr ardal a gydag atyniadau naturiol neu atyniadau awyr agored yn yr ardal.

Adlewyrchwyd y balchder hwn yn y canfyddiadau meintiol. Mae saith deg pump y cant o’r trigolion yn fodlon iawn neu’n eithaf bodlon gyda’r ddarpariaeth treftadaeth leol, ac mae hyn yn cyfateb i’r cyfartaledd ar draws y 12 lleoliad.

“Mae angen i blant fod yn rhan o hyn, gwneud iddyn nhw werthfawrogi’r ardal. Efallai drwy hyrwyddo mwy yn yr ysgolion neu rywbeth felly.” 

Mae saith deg un y cant o’r trigolion yn dweud bod y dreftadaeth wedi gwella yn ystod yr amser maent wedi bod yn byw yn yr ardal, ac mae hyn yn golygu eu bod yn fwy cadarnhaol am hyn na’r cyfartaledd ar gyfer yr ymchwil hon (64%). Yn y gweithdy, wrth drafod pa mor brin oedd y buddsoddi lleol, soniodd cyfranogwyr am eithriadau i hyn, yn benodol y gwelliannau i Barc Pont-y-pŵl a’r gamlas.

Mae’n bwysig nodi, er gwaethaf yr agwedd gadarnhaol hon, fod gan gyfranogwyr y gweithdy bryderon ynghylch treftadaeth leol, yn enwedig arwyddion a hyrwyddo annigonol.

Rhestrodd cyfranogwyr y gweithdy nifer o feini prawf y dylai prosiect treftadaeth leol llwyddiannus eu bodloni: dylai gynnig gweithgareddau a chyfleoedd adloniant i bobl leol ac ymwelwyr; dylai fod ar gael yn rhwydd i bawb; dylai gynnig budd amlwg i’r gymuned (er enghraifft, creu swyddi), dylai fod yn gynaliadwy; a dylai safon gwaith ar y prosiect fod yn dda.

Yr ymchwil

Cafodd pob elfen o’r ymchwil ei chynnal ym Mhont-y-pŵl. Casglwyd data cefndir er mwyn deall sut y mae’r ardal wedi newid dros yr 20 mlynedd diwethaf. Wedyn, cafodd pum cyfweliad eu cynnal gyda rhanddeiliaid lleol o amrywiol gategorïau (er enghraifft, cynrychiolydd o lywodraeth leol a rhywun yn gweithio yn y byd academaidd). Er mwyn deall safbwynt y cyhoedd, cymerodd 350 o drigolion ran mewn arolwg dros y ffôn, a chymerodd 14 o drigolion ran mewn gweithdy hanner diwrnod. Yn y gweithdy trafodwyd amrywiaeth o faterion, gan gynnwys: barn am Bont-y-pŵl; agweddau at dreftadaeth leol ac ymgysylltu â’r dreftadaeth honno; manteision treftadaeth; a’r meini prawf y dylid eu defnyddio i asesu a yw prosiect treftadaeth leol yn llwyddiannus neu beidio.

Prosiectau treftadaeth ym Mhont-y-pŵl

Roedd y prosiect ymchwil yn canolbwyntio ar y safleoedd a’r prosiectau treftadaeth canlynol, sydd hefyd i’w gweld ar y map hwn.

*Grantiau a ddyfarnwyd i brosiectau yn ardal ymchwil Pont-y-pŵl hyd at fis Medi 2013.

Yn ôl i ben y dudalen