Logo cryno Gaeleg Yr Alban/ Saesneg

Ddim yn siŵr pa logo sy'n gweddu orau i'ch anghenion? Defnyddiwch yr amlinelliad isod i gyfyngu ar eich dewis. Fel rheol gyffredinol, mae delweddau CMYK ar gyfer defnydd printo, tra bod delweddau RGB yn well i'w defnyddio ar lwyfannau digidol. Mae Pantone 2747 yn cyfeirio at y lliw penodol o las ar gyfer logo CDL rydym yn annog y rhan fwyaf o'n grantïon i'w defnyddio fel yr un safonol.

Arweiniad cyflym i fformatau ffeil:

JPG

  • Fformat ddelwedd Raster. Yn cynnwys picselau sy'n eu gwneud yn anodd i newid maint heb golli ansawdd
  • Defnyddio cywasgu 'lossy'. Bob tro caiff y ffeil ei olygu/ arbed mae'n colli ansawdd delwedd
  • Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn well ar gyfer darparu ffeiliau llai o faint
  • Nid yw'n cefnogi tryloywder

PNG

  • Fformat ddelwedd Raster. Yn cynnwys picselau sy'n eu gwneud yn anodd i newid maint heb golli ansawdd
  • Defnyddio cywasgu 'lossless'. Nid yw'n colli ansawdd pan caiff ei olygu/ arbed
  • Fel arfer yn fwy o ran maint ffeil ond yn well o ran ansawdd llun na jpg
  • Cefnogi tryloywder

EPS

  • Gellir eu trin fel ffeiliau fector. Caiff y rhain eu diffinio gan fformiwlâu mathemategol
  • Gellir newid eu maint a'u trin heb golli ansawdd
  • Gellir dim ond eu trin gyda meddalwedd dylunio graffeg (e.e Adobe Photshop)
  • Cefnogi tryloywder
Yn ôl i ben y dudalen